3 Hydref 2023
Sesiwn friffio Cyngor Celfyddydau Cymru ar yr adolygiad buddsoddi 2023
Diolch am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ddydd Iau, 21 Medi 2023 i roi sesiwn friffio ynghylch Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru 2023. Yn ystod y cyfarfod, gwnaethoch gytuno i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol ganlynol i’r Pwyllgor:
§ Copi o gynigion yr adolygiad buddsoddi a wnaed i sefydliadau o 2024 ymlaen.
§ Rhestr o’r arian sydd wedi ei roi ym Mlaenau Gwent o bob ffynhonnell.
§ Linc i'r erthygl Lancet am rôl y celfyddydau wrth hyrwyddo iechyd da yng Nghymru.
Byddem hefyd yn croesawu gwybodaeth am ba gamau y bydd Cyngor y Celfyddydau yn eu cymryd i hysbysu'r Senedd yn ehangach am yr Adolygiad Buddsoddi, a'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau ariannu a wnaed.
Edrychwn ymlaen at gael eich ymateb maes o law, a byddwn yn falch o gael unrhyw wybodaeth berthnasol ychwanegol y byddwch efallai am ei rhannu â ni.
Yn gywir,
Croesewir
gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.